Coffáu 80 Mlynedd ers D-Day
Parch Llandudno – The Longest Yarn a Mwy
Llandudno’n talu mis o deyrnged i’r ymdrechion y tu ôl i Laniadau D-Day 1944, Hydref 2 – 27, 2024 Mae Llandudno’n mynd yn ôl i’r 40au ac yn dathlu sgiliau gweuwyr a chrefftwyr i ddod a hanes yn fyw.
Rydym yn edrych ymlaen at fersiwn Gymraeg hyfryd o’r wefan hon cyn gynted â phosibl. Mae’n rhaid i ni gael y fersiwn Saesneg wedi’i sgleinio yn ddigon i fod yn deilwng
Cefndir
Pam?
Chwaraeodd pob cymuned a oedd o dan reolaeth y Cynghreiriaid, yn cynnwys y rhai hynny sydd yng ngwledydd y Gymanwlad heddiw ond a oedd yn arfer bod dan reolaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, ran hollbwysig gan ganolbwyntio adnoddau ar draethau Normandi. Yn y pen-draw fe wnaeth yr ymdrechion wrthsefyll lluoedd Natsiaid gyflymu diwedd yr Ail Ryfel Byd a dod a heddwch i Ewrop. Dyma’n straeon ni i’w rhannu tra maen nhw’n dal o fewn cof.
Beth Fyddwn Ni’n ei Weld
Darluniad 3D modern mewn 80 o banelau yn arddull Tapestri Bayeux, o ddigwyddiadau D-Day sy’n mynd ar daith o amgylch y DU ac America yn 2024=25 Tanc Avre Churchill maint llawn wedi’i weu, Mantell Babïau, addurniadau gweu ar thema D-Day ar ben blychau post yn adrodd straeon cudd y diwrnod hanesyddol hwn. Bydd ein llwybr pabïau drwy’r dref yn mynd a chi at y rhain a mannau eraill o ddiddordeb cysylltiedig a’r Ail Ryfel Byd.
Mae’n fraint gan Llandudno a Gogledd Cymru chwarae ein rhan mewn dod â hanes yn fyw 80 o flynyddoedd ers Glaniadau D-Day.
Mynediad am ddim i bob arddangosfa ar hyd y Llwybr Pabïau Croesewir rhoddion i gefnogi achosion lleol ac elusennau cyn-aelodau’r lluoedd arfog.
Beth arall?
Cefnogir y prosiect gan nifer fawr o sefydliadau lleol yn cynnwys Amgueddfa’r Home Front ac Amgueddfa Llandudno sydd â eitemau diddorol i’w gweld a storïau difyr i’w rhannu. I’r amgueddfeydd hyn yn unig y mae tâl mynediad yn berthnasol.
Lle?
Neuadd Eglwys y Drindod Sanctaidd, Trinity Square, Llandudno LL30 2PY
Oriau Agor
Oriau Agor Arddangosyn Edafedd Hiraf
- 10am – 5pm Mawrth – Sadwrn;
- 1pm – 5pm dydd Sul;
- 1 x Hwyr Nos Mawrth 15 Hydref 10am tan 8pm
Mynediad olaf 1 awr cyn yr amser cau a hysbysebir
Rydyn ni i gyd yn Wirfoddolwyr sy’n staffio’r arddangosfa, felly yn gofyn am ddealltwriaeth a chefnogaeth i’n gwirfoddolwyr fynd adref at eu teuluoedd yn hapus ac mewn da bryd.
Tanc Gwau Ripon
- 30 Medi – 31 Hydref
AM DDIM i weld Canolfan Siopa Victoria, Llandudno yn ôl eu horiau agor
Criccieth Creadigol – Creative Criccieth Gŵn Pabi
AM DDIM i’w weld yn Siop Adrannol Clares
Credyd: Angela Williams
Beth Sy’ ’Mlaen?
Tanc wedi’i Weu
Yn cefnogi The Longest Yarn mae tanc maint llawn wedi’i weu. Gan gydnabod bod technoleg arloesol yn angenrheidiol i drechu’r peiriant Natsiaidd, rhoddodd Winston Churchill y dasg i beirianwyr adeiladu tanciau a gynnau pwerus. Mae Crefftwyr Pabïau Cymuned Ripon wedi creu tanc maint llawn wedi’i weu (24 tr x 9 tr x 7 tr) Bydd y tanc yn cael ei leoli, gyda chryn ymdrech, yng Nghanolfan Siopa Fictoria, Stryd Mostyn. Diolch, Ripon.
Addurniadau Blychau Post D-Day.
Addurniadau blychau post yw’r ysbrydoliaeth wreiddiol y tu o i’r rhan fwyaf o’r prosiectau D-Day 80 mawr yma, a chyflwynwyd rhai enghreifftiau gwych ar Facebook o gwmpas y 6ed o Fehefin, 2024. #DDay80 #DDay80
Aethom ati i chwilio amdanyn nhw ac fe wnaethom lwyddo i gasglu tua 30 o enghreifftiau anhygoel o bob rhan o’r DU. Rydym yn ceisio dod o hyd i’r lleoliadau gorau i’w harddangos nhw a’r storïau D-Day personol iawn sydd ynghlwm â nhw.
Mantell Babïau
Yn ffenestr 1920au hardd Siop Clare’s yn Stryd Mostyn, Llandudno, bydd Mantell Pabïau Coch Criccieth: gŵn o babïau a grëwyd gan griw Cricieth Greadigol i goffau’r bywydau a gollwyd mewn rhyfeloedd. Mae’r fantell yn un o drysorau Cymru ac anaml iawn y’i gwelir y tu allan i Gricieth felly mae’n fraint fawr cael cefnogaeth Cricieth Greadigol i lwyfannu’r digwyddiad hwn yn ei gyfanrwydd. Diolch o galon.
Y Llwybr Pabïau
Bydd Llwybr y Pabi yn mynd â chi ar daith bapur neu god QR o amgylch canol tref Llandudno, ar y fflat, gan archwilio ein gosodiadau crefftus a mannau allweddol lle bu Llandudno a Gogledd Cymru yn allweddol yn ymdrech yr Ail Ryfel Byd. Gobeithir y bydd mapiau papur ar gael am ddim @ lleoliadau i’w cadarnhau.
Digwyddiadau
Mae ein harddangosion D-Day wedi ein hysbrydoli i gynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol mis Hydref i gefnogi achosion lleol, sydd yn eu tro yn cefnogi ein prosiectau ni. Bydd tâl bach yn cael ei godi am y tocynnau i’r digwyddiadau hyn a bydd manylion am sut i archebu i’w gweld yma’n fuan.
Ac Mae ‘Na Fwy!
I ychwanegu at ein teyrngedau crefftwaith, y cyngherddau, y dawnsfeydd a’n sgyrsiau gan arbenigwyr ar Harbwr Mulberry, rydym yn falch o fod yn gweithio gydag Amgueddfa Llandudno sydd â rhaglen ddifyr o deithiau cerdded o amgylch Llandudno a sgyrsiau i gyd-fynd â’n digwyddiad a fydd ar y gweill drwy gydol mis Awst, Medi a Hydref.
3 Hydref – Digwyddiad Lansio yn Eglwys y Drindod Sanctaidd
5 Hydref – Taith Gerdded ‘Faciwîs’ Noddedig Plant Ysgol Llandudno o’r Eglwys at y tanc ar hyd y promenâd, i gefnogi elusennau cyn-aelodau’r lluoedd arfog lleol – digwyddiad elusennol dewisol Cynghorydd Sue Shotter, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
8 Hydref, 7.15pm – Cyngerdd Band Swing
ARCHEBWCH YMA:
15 Hydref, 2pm ymlaen – Dawns Te Prynhawn, Canolfan y Drindod, Trinity Avenue, Llandudno (nid yw hwn yr un lle ag Eglwys y Drindod Sanctaidd) LL30 2TQ
16 Hydref, Ysgol Rydal Penrhos, Cyngerdd Cerddorfa Offerynnau Chwyth ar thema’r 40au, Canolfan y Drindod, Trinity Avenue (mae Canolfan y Drindod tua hanner milltir i ffwrdd o Eglwys y Drindod)
22 Hydref, 7:30pm ymlaen – Sgwrs am Harbwr Mulberry gan yr hanesydd Richard Lewis sy’n teithio o Iwerddon i ymuno â ni. Eglwys y Drindod Sanctaidd
24 Hydref – Cyngerdd Cerddorfa Conwy. Bydd y gerddorfa’n chwarae cerddoriaeth o ffilmiau a rhaglenni teledu am yr Ail Ryfel Byd: Dambusters, 633 Squadron, Band of Brothers, Schindlers List er enghraifft
Wrth galon ein digwyddiad mae
The Longest Yarn, portread unigryw 80 metr o hyd o’r digwyddiadau cysylltiedig â D-Day 1944, wedi’i greu yn gyfan gwbl o ffigyrau gwlân. Mae’r crefftwaith ar daith ar hyn o bryd! Wedi’i wneud yn llwyr â llaw, mae’n adrodd hanes yr heriau a oroeswyd i ryddhau Normandi ac ymdrech fyd-eang y Cynghreiriad, gan ddod â chymunedau fel ein cymuned ni at ei gilydd i sicrhau’r fuddugoliaeth hanesyddol hon ar 6 Mehefin. Mae’n ein hatgoffa o’r heddwch cymharol yr ydym yn ei fwynhau heddiw yn y DU a’r rhan fwyaf o Ewrop na fyddai wedi bod yn bosib heb aberth y Genhedlaeth Orau.
“Weithiau mae realiti’n rhy gymhleth. Mae straeon yn rhoi ffurf iddo.”
― Jean-Luc Godard
Yn addas ar gyfer pob oed, mae The Longest Yarn yn ffordd hynod effeithiol o gyflwyno plant a phobl ifanc i’n hanes, ar yr un pryd ag atgoffa cenhedloedd hŷn o straeon teuluol y mae perygl iddynt fynd yn angof dros amser.
Mae Rhannu Straeon yn Bwysig:
“Does dim yn creu cysylltiad cryfach rhwng pobl nag adrodd straeon”.
― Jimi Neil Smith
Cymryd Rhan
Mae hon yn ymdrech gwbl wirfoddol ac mae arnom angen mwy o wirfoddolwyr i:
- Helpu i roi’r pabïau’n sownd wrth netin ar gyfer ein hardaloedd teyrnged o amgylch y dref. Rhaid dechrau’r wythnos yma – mae amser yn brin!
- Staffio’r arddangosfeydd a’r digwyddiadau gyda’r nos ac ymgysylltu ag ymwelwyr drwy gydol mis Hydref. Ni fydd y sesiynau’n hirach na 3 awr. Bydd hyfforddiant hwyliog a thrylwyr yn cael ei roi ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ystod mis Awst a dechrau mis Medi.
- Cefnogi ein gwirfoddolwyr gwych drwy helpu i roi sglein ar Landudno a gwella’r profiad i bawb.
- Rhannu ein dolenni a’n taflenni gwybodaeth yn eang yn y cyfryngau cymdeithasol.
- Helpu i recordio straeon cenhedlaeth y rhyfel fel rhan o’r prosiect hanes cymdeithasol, er mwyn eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn yr archif ar-lein ‘Casgliad Pobl Cymru’ ac archifau tebyg mewn gwledydd eraill. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi a bydd costau’n cael eu talu, ac mae’n rhywbeth gwych i’w roi ar eich CV!
Wrth fy modd! Sut mae dechrau arni?
- Cysylltwch â Gini, Pat neu Claire at mail@friendsofmostynstreet.co.uk
Facebook: Friends of Mostyn Street - Rhowch wybod i ni beth hoffech chi ei wneud
- Byddwch yn amyneddgar wrth i ni drefnu cyflwyniad byr a sesiynau hyfforddi.
- Dewch draw ac ymunwch yn y profiad unigryw hwn.
Cwestiynau Cyffredin
Pam :Llandudno?
Mae Llandudno, fel llawer o gymunedau eraill, yn falch o’i chyfraniad at yr ymdrechion i sicrhau buddugoliaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Traeth Morfa Conwy oedd y safle cudd lle datblygwyd y cyntaf o’r Harbwrs Mulberry, technoleg hanfodol a gefnogodd ymdrech lwyddiannus y Cynghreiriaid. Fel y dywedodd Prif Swyddog Staff y Llynges, Comodor John Hallett-Hughes: ‘Os allwn ni ddim cipio harbwr, mae’n rhaid i ni fynd ag un efo ni.”
Ar y Gogarth a Thrwyn y Fuwch bu dros 15,000 o filwyr yr Ysgol Hyfforddiant Magnelau Arfordirol yn ymarfer. Yn ychwanegol, roedd yma ddau Sefydliad Ymchwil Cyfathrebu ar gyfer Ymchwil Amddiffyn o’r Awyr ac Ymchwil Telathrebu – technolegau hollbwysig ar gyfer D-Day a thu hwnt
Roedd Llandudno hefyd yn gartref i filwyr Americanaidd a oedd yn aros i gael eu lleoli a buom yn gofalu am dros 10,000o weithwyr adran Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a’r Weinyddiaeth Fwyd a gafodd eu hadleoli yma. Roedd yr adrannau hyn yn sicrhau bod trethi’n cael eu casglu i gefnogi’r ymdrech i drechu’r gelyn ac i sicrhau bod dognau bwyd yn cael eu rhannu’n deg.
Yn 2024 mae Llandudno’n gartref i Amgueddfa’r Home Front sy’n dangos yr amodau yr oedd pobl yn byw ynddynt yn ystod y rhyfel. Mae gennym hefyd ganolfan breswyl ar gyfer Blind Veterans UK sy’n rhoi cyfle i gyn-aelodau’r lluoedd arfog â nam ar eu golwg adfer a gorffwys.
Rydym yn croesawu dros 3.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, a bydd croeso cynnes Cymreig yn aros amdanoch.
Mae Amgueddfa Llandudno yn cefnogi ein digwyddiad gyda rhaglenni gweithredol ar gyfer ysgolion a chymunedau, gan gyfoethogi ein hatgofion a’n dealltwriaeth o’r cyfnod pwysig hwn.
Rydw i isio dod, beth mae angen i mi ei wybod?
Mae’r holl leoliadau’n gwbl hygyrch i bobl mewn cadeiriau olwyn â’r rhai hynny sydd â phroblemau symudedd. Bydd yr holl ddeunyddiau yn y safleoedd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae llaweroedd o westai mawr a bach. tai Gwely a Brecwast a sefydliadau hunanarlwyo ar gael i’w harchebu. Mae llawer o wybodaeth ar gael yma fel man cychwyn: Dewch i Gonwy
Mae llawer o lefydd o amgylch Llandudno yn croesawu cŵn ac mae yma amrywiaeth eang o lefydd bwyta a gweithgareddau hamdden i apelio at bawb os ydych am aros ychydig yn hirach. Yn aml iawn ym mis Hydref mae cyfle am wyliau heulog a chynnes ac efallai y bydd yna amser i brofi atyniadau’r Gogarth neu i ymgolli yn Eryri.
Pwy sydd y tu ôl i’r digwyddiad/prosiect hwn?

Mae Cyfeillion Stryd Mostyn yn Grŵp Gweithredu Cymunedol a sefydlwyd ym mis Mawrth 2023, sydd wedi ymrwymo i ofalu am, a chaboli tref glan môr Fictoraidd Llandudno. Gan gydnabod y bygythiad o ddirywiad yn ffyniant trefi glan y môr, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau y gellir diogelu dyfodol Llandudno drwy bartneriaethau ysbrydoledig ac arloesol gyda busnesau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a hyd yn oed rhyngwladol.
Rydym yn grŵp ‘traed ar y ddaear’ sy’n cyfarfod bob dydd Mercher am 5.30 i lanhau, chwynnu, ysgubo a pheintio rheiliau. Rydym yn cyfarfod am yr amser yma er mwyn rhoi mwy o gyfle i berchnogion busnesau ymuno â ni.
Cefnogwyr:
Ar gyfer y prosiect penodol hwn rydym wedi cael ein cefnogi a’n noddi’n hael gan Dîm Creu Conwy Tref Llandudno gyda chyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cyngor Tref Llandudno hefyd wedi rhoi cyllid i’n helpu ni i sicrhau bod yr arddangosyn The Longest Yarn yn cael ei wresogi, ei oleuo a’i ddehongli er mwyn i bawb allu manteisio ar y cyfle unigryw hwn.
Rydym wedi’n cefnogi hefyd gan:
- Yr Hanesydd Adrian Hughes o Amgueddfa’r Home Front er mwyn sicrhau bod yr ymdrechion lleol tuag at D-Day wedi’u cynrychioli’n gywir.
- Amgueddfa Llandudno gyda rhaglen o sgyrsiau a theithiau cerdded yn amlygu cysylltiadau Llandudno â digwyddiadau D-Day – prisiau i ddod.
Partneriaid Busnes Cyfeillion Stryd Mostyn yn cynnwys:
- Siop Clare’s
- Mostyn Estates Limited
- Banc Natwest
- Banc HSBC
- Cymdeithas Adeiladu Nationwide
- Jewsons
- Home Cooking Llandudno
- Dudley George Llandudno
- Amgueddfa’r Home Front
- Happitat – Cydweithredfa Crest
- Livetech
- Cymdeithas Lletygarwch Llandudno
- Gwesty Glan y Môr
- Gwesty Dunoon
- Hosbis Dewi Sant, Llandudno
- Amgueddfa Llandudno
- Rock Shop
- Tramffordd y Gogarth
- Pier Llandudno
- Great Orme Mines Limited
- Ski Llandudno
- Twristiaeth Gogledd Cymru
Rydym hefyd yn cael cefnogaeth barhaus a defnyddiol dros ben gan Dîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Busnes a Thwristiaeth, Canolfannau Croeso a’r Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth.
Archebu Llety
Rydym bob amser yn annog ymwelwyr i archebu llety’n uniongyrchol gyda’n darparwyr rhagorol. Gallwch ddarganfod mwy am yr ardal a llefydd i ymweld â nhw drwy glicio ar y dolenni canlynol.
Cymdeithas Lletygarwch Llandudno https://www.llandudnoha.co.uk/
Dewch i Gonwy https://www.visitconwy.org.uk
